Croeso i brosiect TrAC: Heneiddio a Gofal Traws. Prosiect ymchwil sydd â’r nod o ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cynhwysol gydag urddas i bobl draws hŷn yng Nghymru. Mae’r prosiect, sy’n rhan o’r Ganolfan Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ymroi i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i unigolion traws* dros hanner cant oed. Rydym hefyd eisiau dysgu rhagor am les, anghenion a buddiannau oedolion hŷn traws* neu sydd â rhywedd amrywiol.

Rydym yn falch o weithredu’r prosiect ar y cyd â’r Rhwydwaith Trawsrywedd Unique a Rhwydwaith Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws Hŷn Cymru Age Cymru. Gallwch ddysgu rhagor am y prosiect drwy’r wefan hon.

 

 

Beth yw ystyr Traws*?

Rydym yn defnyddio’r term ‘Traws’ i gyfeirio’n gyffredinol at ystod o bobl y mae eu hunaniaeth ryweddol a/neu eu mynegiant rhyweddol yn wahanol mewn rhyw ffordd i dybiaethau pobl am eu rhywedd pan gawson nhw eu geni, a’r categori rhyw biolegol y’u rhoddwyd nhw ynddo. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i’r rhai sy’n arddel hunaniaeth drawsryweddol neu ryngrywiol, ond hefyd unrhyw un sy’n teimlo nad yw’r categori rhywedd y’u rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni yn disgrifio eu hunaniaeth ryweddol, neu nad yw’n ddisgrifiad cyflawn o’u hunaniaeth ryweddol. Gallai hyn gynnwys pobl sy’n mynd drwy broses ailbennu rhywedd er mwyn byw mewn rhywedd newydd, pobl sy’n croeswisgo a phobl eraill sy’n hunan-ddiffinio fel pobl sydd â rhywedd amrywiol, neu sy’n genderqueer, yn anneuaidd neu’n anghydffurfiol o ran rhywedd.

Rhagfyr 14th, 2015

Posted In: Misc


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University