Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu drwy grant rhaglen dwy flynedd gan Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill hyd at fis Hdref 2018. Mae’r prosiect, sy’n cael ei noddi gan Brifysgol Abertawe, yn rhan o’r Ganolfan Heneiddio Arloesol yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.

Ychydig iawn rydym yn ei wybod am anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl draws hŷn. Bydd y prosiect ymchwil dulliau cymysg hwn yn ceisio mynd i’r afael â’r bwlch hwn drwy ymchwilio i’r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl draws hŷn yng Nghymru. Bydd yr ymchwil yn cynnwys profiadau a safbwyntiau proffesiynol gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol er mwyn datblygu canllawiau arfer da ar gyfer gwella gwasanaethau. Bydd hyn yn cwmpasu timau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau i oedolion hŷn yng Nghymru, gan gynnwys: meddygfeydd, timau iechyd meddwl, timau anableddau, timau gofal cymdeithasol a chymunedol oedolion, a staff gofal preswyl a nyrsio.

Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn cynnig tystiolaeth newydd er mwyn codi ymwybyddiaeth am hunaniaeth ryweddol a heneiddio ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Yn unol â blaenoriaethau’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn (Llywodraeth Cymru, 2013), bydd y canfyddiadau yn helpu i sicrhau nad yw oedolion traws hŷn ‘yn profi gwahaniaethu lluosog’ (t. 9) drwy nodi rhwystrau, tybiaethau a gweithredoedd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n atgyfnerthu agweddau ac amgylcheddau gwasanaeth sy’n drawsffobaidd, ac sy’n atal pobl draws hŷn rhag cael gofal cydradd sy’n eu trin gydag urddas ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Nod yr ymchwil yw:

  1. Nodi pa wasanaethau cymorth mae pobl draws hŷn yn eu defnyddio ac yn eu cael ar hyn o bryd a chanfod barn pobl draws am ba mor effeithiol yw’r gwasanaethau hyn o ran bodloni eu hanghenion;
  2. Archwilio agweddau a chanfyddiadau gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl hŷn tuag at bobl draws hŷn;
  3. Nodi a) anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl draws sy’n hanner cant oed neu’n hŷn ac sy’n byw yng Nghymru yn ystod cwrs eu bywyd, a b) gobeithion, disgwyliadau a phryderon pobl draws hŷn am ddarpariaeth gwasanaeth pan fyddant yn hŷn;
  4. Cynhyrchu straeon digidol a chanllawiau ar gyfer ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar gefnogi pobl draws hŷn ac er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd y dulliau ymchwil yn cynnwys arolwg Cymru gyfan o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a chyfweliadau hanes bywyd gydag oedolion sy’n arddel hunaniaeth draws ac sydd dros hanner cant oed.

Bydd y prosiect yn defnyddio tri dull ymchwil:

  1. Cyfweliadau hanes bywyd gyda phobl draws hŷn (50+ oed) sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
  2. Holiadur ar-lein ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n darparu gwasanaethau i bobl hŷn ledled Cymru ar hyn o bryd
  3. Gweithdai yn y gogledd a’r de er mwyn dwyn gweithwyr proffesiynol ac aelodau o’r gymuned ynghyd i ddatblygu canllawiau arfer da ar gyfer cefnogi pobl draws hŷn drwy wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau i ddatblygu deunyddiau ar y we ar gyfer gweithwyr proffesiynol er mwyn rhoi gwybod iddynt sut y gallant ddarparu gofal gwell, mwy cynhwysol. Bydd cynhadledd derfynol ar gyfer darparwyr gwasanaethau ac aelodau o’r gymuned draws yn 2018 er mwyn rhannu canfyddiadau a chanlyniadau’r prosiect.

Rydym yn falch o weithredu’r prosiect ar y cyd â’r Rhwydwaith Trawsrywedd Unique a Rhwydwaith Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws Hŷn Cymru Age Cymru. Bydd grŵp cyfeirio beirniadol yn rhoi arweiniad i’r ymchwil, a bydd hanner aelodau’r grŵp yn aelodau o’r gymuned draws.


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University