chris-dobbs-croppedDr Chris Dobbs yw Swyddog Ymchwil y prosiect. Mae ganddi PhD mewn Seicoleg Gymdeithasol ac wedi gweithio yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol yn ddi-dor bron ers 2008. Gan weithio â data ansoddol a meintiol, mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys: ymddygiad rhyng-grwpiau, yn benodol y camddefnydd o bŵer, grymuso a llais, urddas a gofal diwedd bywyd; rhywedd mewn blynyddoedd hŷn.

 

 

 

2015-06-29 23.09.56Dr Paul Willis yw prif ymchwilydd a chyd-reolwr y prosiect. Mae Paul yn uwch ddarlithydd ym maes gwaith cymdeithasol gofal oedolion yn yr Ysgol Astudiaethau Polisi ym Mhrifysgol Bryste. Mae Paul yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig, ac yn y gorffennol bu’n gweithio fel cwnselydd a gweithiwr datblygu cymunedol gydag aelodau o’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a rhyngryw yn Tasmania, Awstralia. Rhwng 2011 a 2013 bu’n arwain prosiect yn ymchwilio i ddarpariaeth gwasanaethau cynhwysol ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol hŷn mewn amgylcheddau gofal preswyl yng Nghymru (ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Llywodraeth Cymru). Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys rhywioldeb, iechyd a lles pobl ifanc; rhywioldeb, gofal a heneiddio; ac anghenion a buddiannau gofalwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.

 

Michele RaithbyDr Michele Raithby yw cyd-reolwr y prosiect gyda Paul. Ar ôl gwneud gradd mewn Anthropoleg, bu Michele yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol a gofal cymdeithasol cyn cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol. Ar ôl ymarfer yn gyffredinol, arbenigodd mewn gofal oedolion ac arolygu lleoliadau gofal hirdymor cyn symud i faes addysg gwaith cymdeithasol. Mae’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys ymarfer myfyriol mewn gwaith cymdeithasol, gweithio gyda phobl hŷn, a rhywioldeb a gofal cymdeithasol.

 

 

Jenny-anne Picture updateMenyw Draws* briod sydd wedi ymddeol yw Jenny-Anne Bishop OBE. Bu’n rhan o’r gymuned Draws* ers dros 40 mlynedd. Gwaith gwirfoddol gyda chymunedau Traws* a chymunedau Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws sy’n llenwi ei hamser. Mae’n gwasanaethu fel aelod o’r Fforwm Seneddol ar Hunaniaeth Ryweddol a Phanel Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru, a’i diddordebau craidd yw cynhwysiant a chydnabyddiaeth o hawliau cyflawn i bawb sydd â rhywedd amrywiol, lleihau troseddau casineb trawsffobaidd a homoffobaidd ac arferion adrodd ar droseddau o’r fath, gwella’r llwybr gofal iechyd yn y gwasanaeth iechyd gwladol ar gyfer pobl Draws*, a chynnwys pobl Draws* Gristnogol ym mywyd eglwysig gwledydd Prydain.

 

 

Penny Miles pic (1)Mae Dr Penny Miles yn gyd-ymgeisydd ar y prosiect. Ar hyn o bryd mae Penny’n gweithio ym Mhrifysgol Caerfaddon fel Cymrawd Dysgu ym maes Gwleidyddiaeth a Chymdeithas America Ladin. Fel rhan o’i hymchwil yn America Ladin, mae Penny wedi gwneud ymchwil sylweddol gydag aelodau o gymuned draws Chile, gyda grwpiau yn cynrychioli dynion a menywod traws. Mae Penny wedi cyhoeddi gwaith ar hawliau trawsryweddol a hawliau dynol yn Chile, ac ar y mudiad trawsryweddol yn Chile. Yn 2011, symudodd ei phwyslais i’r sefyllfa yng Nghymru, gan archwilio’r croestoriadau rhwng oedran a rhywedd a hunaniaethau rhywiol yng nghyd-destun darpariaeth gofal cymdeithasol. Cyn ymuno â Phrifysgol Caerfaddon, bu Penny’n gweithio ym Mhrifysgolion Bryste ac Abertawe ar brosiectau ymchwil rhyngwladol a chymharol, ar ôl cwblhau ei gradd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

 


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University